Casgliad: Ty Picl

Gemydd o Gaerdydd yw Saffron sy’n frwd dros greu darnau unigryw, wedi’u gwneud â llaw. Ar ôl graddio gyda gradd Celfyddyd Gain a hyfforddiant fel gof arian yng Nghaerfaddon, syrthiodd mewn cariad â gwneud gemwaith. Yn wreiddiol o Sir Benfro, dychwelodd Saffron i Gymru i ddilyn ei chrefft a lansiodd ei brand, Ty Picl, a enwyd ar ôl ei chihuahua annwyl, Pickle.