Casgliad: Immy a Boo

Wedi’i lleoli yn Ne Cymru, lansiodd Claire ei busnes yn 2020, gan arbenigo mewn gemwaith ac addurniadau wedi’u paentio â llaw. Mae ei dyluniadau yn cynnwys arddull geometrig nodedig gyda gwrthdaro lliw bywiog a phatrymau cywrain. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ei gwaith, gan ddefnyddio pren haenog Birch a achredwyd gan yr FSC o goedwigoedd a reolir yn gyfrifol ac a dorrir â laser yn lleol. Mae pob darn ysgafn yn cael ei baentio â llaw a'i farneisio'n ofalus i sicrhau gwydnwch ac atal naddu.